bell notificationshomepageloginedit profileclubsdmBox

Read Ebook: Gwaith Samuel Roberts by Roberts Samuel Edwards Owen Morgan Sir Editor

More about this book

Font size:

Background color:

Text color:

Add to tbrJar First Page Next Page

Ebook has 399 lines and 31809 words, and 8 pages

GWAITH SAMUEL ROBERTS.

Rhagymadrodd.

Ganwyd Samuel Roberts yn Llanbrynmair, Mawrth 6, 1800. Bu farw yng Nghonwy, Medi 24, 1885; ac ym mynwent gyhoeddus Conwy y rhoddwyd ef i huno.

O'r Diwygiad y cododd teulu galluog S. R. Yr oedd ei dad, John Roberts, er 1798 yn olynydd i Richard Tibbot a Lewis Rees fel gweinidog Hen Gapel Llanbrynmair. Dyma enwau aelodau mwyaf adnabyddus y teulu,--

Symudodd John Roberts a'i deulu, tua 1806, o Dy'r Capel i ffermdy y Diosg dros yr afon ar gyfer. "Tyddyn bychan gwlyb, oer, creigiog, anial, yng nghefn haul, ar ochr ogleddol llechwedd serth" oedd y Diosg; ac efe yw Cilhaul.

Daeth S. R. yn gynorthwywr i'w dad fel gweinidog yn 1827; dilynodd ef fel tenant y Diosg yn 1834. Cyn 1856, yr oedd y brodyr wedi penderfynu gadael Llanbrynmair,--aeth J. R. yn weinidog i Ruthyn, a hwyliodd S. R. a Gruffydd Rhisiart i'r America.

Cychwynodd S. R. o Lerpwl Mai 6, 1857; cyrhaeddodd yno 'n ol Awst 30, 1867. Yr oedd wedi ei siomi yn y gorllewin ac wedi troi ei gefn ar dy ei alltudiaeth,--Bryn y Ffynnon, Scott Co., East Tennessee. Cafodd ei dwyllo gan y rhai oedd yn gwerthu tir; darlunnir hwy ym Martin Chuzzlewit Dickens. Nid oedd wedi sylweddoli, hwyrach, mor erwin yw'r ymdrech mewn gwlad anial. A daeth y Rhyfel Cartrefol i andwyo ei amgylchiadau. Teimlai fod y ddwy ochr i'w beio, ac mai dyledswydd y Gogledd oedd talu pris rhyddhad y caethion i wyr y De.

O 1867 ymlaen ail ymunodd y teulu, a bu'r tri brawd byw yn yr un cartref yng Nghonwy hyd nes y cludwyd hwy i'r un fynwent.

Ychydig iawn oedd yn fwy adnabyddus nag S. R. yn ei ddydd yng Nghymru. Bu ef a'i frodyr mewn llu o ddadleuon,--y mae y gornestwyr oll wedi tewi erbyn hyn,--a gwnaethant lawer i ddeffro gwlad. Bu ei Gronicl yn foddion addysg i filoedd. Bu ef ei hun yn llais i amaethwyr Cymru, ac yn llais i werin yn erbyn gorthrwm o bob math. Cyhoeddwyd cofiant am dano ef a'i frodyr yn y Bala, gan y Dr. E. Pan Jones.

Wele ddwy ran nodweddiadol o'i waith. Bu y Caniadau yn hynod boblogaidd; y teulu yn Llanbrynmair yw'r "Teulu Dedwydd." Hwy hefyd yw teulu "Cilhaul," ac y maent y darlun goreu a chywiraf o ffermwyr Cymru dynnwyd eto.

OWEN EDWARDS. Llanuwchllyn, Awst 1, 1906.

CYNHWYSAID.

Y Teulu Dedwydd Marwolaeth y Cristion Y Lili Gwywedig Can y Nefoedd Ar farwolaeth maban Y Cristion yn hwylio i for gwynfyd Cwyn a Chysur Henaint Mae Nhad wrth y Llyw Y Ddau Blentyn Amddifad Cyfarchiad ar Wyl Priodas Dinystr Byddin Sennacherib Gweddi Plentyn Cwynion Yamba, y Gaethes ddu Y creulondeb o fflangellu benywod Y fenyw wenieithus Y Twyllwr hudawl Darostyngiad a Derchafiad Crist Buddugoliaethau yr Efengyl yn y Mil Blynyddoedd

Jacob Highmind. Cario chwedlau i'r steward. Notice to quit i John Careful.

Pryder y teulu; troi golwg tua'r Amerig. Squire Speedwell yn ymyrryd. Yr ysgwrs rhwng Lord Protection a John Careful. Swn y bytheuaid. Meistr tir a steward. Ymadael o Gilhaul.

Yr Highminds yn denantiaid newyddion. Mynd i'r dim. Cilhaul ar law. Y steward yn sylweddoli anhawsterau'r ffermwyr. Hen wr Hafod Hwntw. Gweld colled am ffermwyr gonest di-dderbyn wyneb.

Mary Williams, Garsiwn

Thomas Evans, Aber

Y Darluniau.

Samuel Roberts Darlun o'r Oriel Gymreig, dynnwyd gan y diweddar John Thomas.

Bwthyn ym Maldwyn O'r Oriel Gymreig.

"Mewn hyfryd fan ar ael y bryn, Mi welwn fwthyn bychan; A'i furiau yn galchedig wyn, Bob mymryn, mewn ac allan"

Pont Llanbrynmair O'r Oriel Gymreig.

Dan Haul y Prydnawn O'r Oriel Gymreig. Darlun o dai yn Llanbrynmair dan dywyniad haul yr Hydref.

Cyflwynwyr Tysteb S. R. O'r Oriel Gymreig.

Cyflwynwyd y dysteb yn Lerpwl yn union wedi dychweliad S. R. o'r America. Eistedd Caledfryn yn y canol, a'i bwys ar ei ffon. Ar ei law chwith eistedd S.R., a J. R. yn agosaf ato yntau. Wrth gefn y ddau frawd saif y Gohebydd, eu nai, a chadwen ar ei fron. Yn union y tu cefn i S. R., yn dalaf o bawb sydd ar eu traed, saif Mynyddog.

Ffrwd y Mynydd O'r Oriel Gymreig. Darlun o olygfa yn ucheldir Llanbrynmair.

My Lord H. Williams.

Talu'r Rhent H. Williams.

CANIADAU BYRION.

Y TEULU DEDWYDD.

Wrth ddringo bryn ar fore teg, Wrth hedeg o'm golygon, Gan syllu ar afonig hardd, A gardd, a dolydd gwyrddion; Mewn hyfryd fan ar ael y bryn Mi welwn fwthyn bychan, A'i furiau yn galchedig wyn Bob mymryn, mewn ac allan.

Canghennau tewfrig gwinwydd ir Addurnant fur y talcen, A than y to yn ddof a gwar Y trydar y golomen; O flaen y drws, o fewn yr ardd, Tardd lili a briallu; Ac O mor hyfryd ar y ffridd Mae blodau'r dydd yn tyfu.

Wrth glawdd yr ardd, yn ngwyneb haul, Ac hyd y dail, mae'r gwenyn Yn diwyd gasglu mel bob awr I'w diliau cyn daw'r dryc-hin; Ar bwys y ty, mewn diogel bant, Mae lle i'r plant i chwareu; Ac yno'n fwyn, ar fin y nant, Y trefnant eu teganau.

O fewn y ty mae'r dodrefn oll, Heb goll, yn lan a threfnus; A lle i eistedd wrth y tan Ar aelwyd lan gysurus; Y Teulu Dedwydd yno sy Yn byw yn gu ac anwyl; A phob un hefyd sydd o hyd Yn ddiwyd wrth ei orchwyl.

Ychwaith ni chlywir yn eu plith Neb byth yn trin na grwgnach, Ond pawb yn gwneyd eu goraf i Felysu y gyfeillach; Mae golwg iachus, liwus, lon, A thirion ar bob wyneb; A than bob bron y gorffwys hedd, Tagnefedd, a sirioldeb.

Pan ddel yr hwyr, ac iddynt gwrdd, Oddeutu'r bwrdd eisteddant; Ac am y bwyd, o hyd nes daw, Yn ddistaw y disgwyliant; Pan ddyd y fam y bwyd gerbron Gwnant gyson geisio bendith; Ac wedi 'n, pan eu porthi gant, Diolchant yn ddiragrith.

Ar air y tad, a siriol wen, A'r mab i ddarllen pennod; Ac yna oll, mewn pwysig fodd, Codant i adrodd adnod; Yr emyn hwyrol yn y fan Roir allan gan yr i'angaf, Ac unant oll i seinio mawl Cysonawl i'r Goruchaf.

Y tad a dd'wed ddwys air mewn pryd Am bethau byd tragwyddol; Y fam rydd ei Hamen, a'r plant Wrandawant yn ddifrifol; Wrth orsedd gras, o flaen yr Ior, Y bychan gor gydblygant; A'u holl achosion, o bob rhyw, I ofal Duw gyflwynant.

Am ras a hedd, a nawdd y Nef, Y codant lef ddiffuant; A Duw a ystyr yn gu-fwyn Eu cwyn a'u holl ddymuniant; Ac O! na fedrwn adrodd fel Mae'r tawel Deulu Dedwydd, Mewn gwylaidd barch, ond nid yn brudd, Yn cadw dydd yr Arglwydd.

Yn fore iawn, mewn nefol hwyl I gadw'r wyl cyfodant; Ac wedi ceisio Duw a'i wedd, I'w dy mewn hedd cydgerddant; Fe'u gwelir gyda'r fintai gu Sy'n cyrchu i'r addoliad; Ac yn eu cor, ym mhabell Ion, Yn gyson ceir hwy'n wastad.

Ceir clywed mwynber leisiau'r plant Mewn moliant yn cyfodi, A'u gweld yn ddifrif-ddwys o hyd, Ac astud, wrth addoli; Ni wag ymrodiant i un man I hepian na gloddesta; Ond bydd eu calon gyda gwaith A chyfraith y Gorucha'.

Pob un, a'i Feibl yn ei law, I'r ysgol ddaw'n amserol; Ac yn eu cylch fe'u ceir bob pryd Yn ddiwyd a defnyddiol; Pan ddeuant adre'r nos yn nghyd I gyd, a'r drws yn nghauad, Dechreuant ddweyd yn bwysig rydd Am waith y dydd, a'u profiad.

Mor fwyn eu can! mor ddwys pob gair, Ac O mor daer eu gweddi! A Duw yn siriol wenu ar Y duwiol hawddgar deulu; Gwir nad oes ganddynt ddodrefn aur, Na disglaer lestri arian, Na llawrlen ddrudfawr yn y ty, Na gwely-lenni sidan.

Ni feddant seigiau mawr eu rhin, Na melus win na moethau, Na thuedd byth i flysio'n ffol Frenhinol arlwyadau; Ond mae rhinweddol win a llaeth Yr iechydwriaeth ganddynt; A Christ yn Frawd, a Duw yn Dad A thirion Geidwad iddynt.

Fe'u ceidw'n ddiogel rhag pob braw, Ac yn Ei law fe'u harwain, Nes dwyn pob un i ben ei daith Trwy hirfaith dir wylofain; Pob un a gyrraedd yn ei dro Hyfrydawl fro paradwys; Ac yno'n dawel berffaith rydd Y cant dragwyddol orffwys.

MARWOLAETH Y CRISTION.

Gristion hawddgar! Daeth yr adeg It' ehedeg at dy Dad; Gad dy lesgedd, hwylia'th edyn, Cyfod, cychwyn tua'th wlad; Sych dy ddagrau, dechreu ganu, Darfu'th bechu, darfu'th boen; Ti gei bellach dawel orffwys Ym mharadwys gyda'r Oen.

Er fod afon angau'n donnog, A llen niwlog dros y glyn, Gwel dy Briod cu yn dyfod I'th gyfarfod y pryd hyn; Dacw'r gelyn wrth ei gadwyn, Heb ei golyn, dan ei glwy'; Dacw uffern wedi 'i maeddu:- Gristion! pam yr ofni mwy?

Yn y dyffryn, er mor dywyll, Gwelaf ganwyll ddisglaer draw, Wedi 'i chynneu i'th oleuo, Rhag it' lithro ar un law; Mae dy Iesu wedi blaenu, Wedi torri grym y donn; Pam yr ofni groesi'r dyffryn? Pam mae dychryn dan dy fron?

Eilia'th gan, mae'r nos yn cilio, Gwel, mae gwawl yn hulio'r glyn: Edrych trwy y niwlen deneu, Gwel drigfannau Seion fryn: Gwel, mae hyfryd wen dragwyddol, Heulwen nefol ar y wlad; Gwel mor ddisglaer deg danbeidiol Yw brenhinol lys dy Dad.

Add to tbrJar First Page Next Page

 

Back to top