bell notificationshomepageloginedit profileclubsdmBox

Read Ebook: Cerddi'r Mynydd Du Sef Caneuon Hen a Diweddar by Griffiths W Called G Ap Lleision Compiler Morgan Llew Photographer

More about this book

Font size:

Background color:

Text color:

Add to tbrJar First Page Next Page

Ebook has 313 lines and 16472 words, and 7 pages

Editor: W. Griffiths

Adgof dedwydd am a fu Wna Fynydd Gwyn o'r Mynydd Du.

CERDDI'R MYNYDD DU

sef

CANEUON HEN A DIWEDDAR

WEDI EU CASGLU A'U TREFNU GAN Y

PARCH. W. GRIFFITHS

, YSTRADGYNLAIS.

GYDA DARLUNIAU GAN

MR. LLEW MORGAN.

ABERHONDDU: Argraffwyd gan ROBT. READ, yn Swyddfa'r "Brecon & Radnor Express," Y Bulwark. 1913.

CYNWYSIAD.

Cyflwyniad With Droed y Mynydd Du Adgofion Mebyd Llynau'r Giedd Shon Wil Khys Pen y Cribarth Yn y Mawn ar ben y Mynydd Bugail y Mynydd Du Hela'r Twrch Trwyth Afon Giedd Ffaldau Moel Feity Y Llynfell Llyga d y Dydd ar Waen Ddolgam O'r Niwl i'r Nef Gwilym Shon Llyn y Fan Ffrydiau Twrch Angladd ar y Mynydd Du Y Gof Bach Ffynon y Brandi Dafydd y Neuadd Las Cyw Llyn y Fan Ar y Banau Breuddwyd Adgof C?n y Dwyfundodiaid

Cerfiad mewn trawst perthynol i hen amaethdy Brynygroes, yn dynodi adeg ei adeiladu, ac enw ei breswylydd. Mae y lle wedi ei ddal gan yr un llinach am dros 400 0 flynyddoedd.

Bryn-Y-Groes.

Mynwent Cwmgiedd.

Gored Y Giedd.

Trem I'r Mynydd Du.

Cwmgiedd .

Ffynon-Y-Cwar.

Pont-Ynys-Twlc.

Penparc.

Llocior'r Defaid.

Maen Derwyddol Ger LLaw Llyn-Y-Fan Fawr.

LLyn-Y-Fan.

CYFLWYNEDIG

GRIFFITH DAVIES, Ysw.,

SEATTLE, WASHINGTON, AMERICA.

At foneddwr--brodor gl?n, Lyfr bychan, dos a'th g?n, Nid oes genyf anrheg well Iddo ar Gyfandir pell Na'r caneuon syml hyn-- Cerddi bro ei faboed gwyn.

Yma gwelodd gynta'r byd, Giedd suai gwsg ei gryd, Yn ei dyfroedd laslanc llon Dysgodd gyntaf nofio'r don, Ar ei glanau yfai ddysg, Yn ei llynau daliai'r pysg.

Am flynyddau wedi hyn Cerddai'r fro, a dringai'r bryn. Anturiaethus fu ei daith I'r pellderoedd lawer gwaith; A chyfrinach anian gu Glywodd ar y Mynydd Du.

Myn brodorion yr Hen Wlad Adrodd beunydd mewn mwynhad Am ei deithiau yma a thraw Gyda'i lyfr yn ei law; Hoffai wybod meddwl dyn, Meddwl Duw yn fwy na'r un.

Haf a gauaf, tes a gwynt, Carai fyn'd i'r Capel gynt, Rhoes ei ddawn yn offrwm byw Ar allorau sanctaidd Duw; Casglodd yma fanna bras, Canodd yma gerddi gras.

I'r cwrdd gweddi ffyddlawn bu, Yn yr Ysgol, athraw cu; Ei ddisgyblion dros y byd Dystiant am ei wersi drud, Hauodd ef ar lawer dol, Tyf cynhauaf gwyn o'i ol.

Diwrnod yn y cwmwl trwm Ydoedd hwnw yn y Cwm Aeth a'r delfryd lanc di-ail Tua gwlad machludiad haul; Yn y cwmwl nid oedd gw?n, Wylai'r ieuanc, wylai'r hen.

Daw hanesion dros y d?n, Hanes gl?n fel ewyn hon, Hanes calon eang, hael, Fedra roi mor llon a chael, Hanes bywyd sydd a'i fryd Beunydd i brydferthu byd.

Frodor anwyl, hoff yn awr Ganddo gofio llwybrau'r wawr, Mae y Mynydd Du o hyd Iddo'n gyfrinachau'i gyd, Salmau'r neint sydd ar ei glyw-- Mynydd ei Wynfydau yw.

Lyfr bychan, dos a'th g?n Drosodd i'r boneddwr gl?n; Nid oes genyf anrheg well Iddo ar Gyfandir pell Na'r caneuon syml hyn-- Cerddi gwlad ei faboed gwyn.

G. AP LLEISION.

Wrth Droed y Mynydd Du.

'Roedd blodau ar y dyffryn, A Mai o dan y coed, Yn chwareu gyda'r awel Yn lion ac ysgafn droed: Fe ganai y fwyalchen Ar gangen las uwchben, Heb wrando cyfrinachau serch Y ddau oedd dan y pren.

Fe welsant flodau'n tyfu Ar bedwar-ugain Mai, Ond welodd neb er hynny, Eu serch yn myn'd yn llai; Adroddant wrth en gilydd Adgofion blwyddi fu, Pan rodient dan oleuni'r lloer Hyd llethrau'r Mynydd Du.

"'Rwy'n cofio'r noson gyntaf I'th welais, f'anwyl un, Pan deimlais yn fy nghalon Fod mellt yn llygad mun; 'Rwy'n cofio'th wylio'n rhedeg Fel ewig dros yr allt, A'r nos oedd yn dy lygad, Gwen, A'r aur oedd yn dy wallt."

"Ond dofi wnaeth y fellten Oedd yn dy lygad, Gwen, Ac yn lle aur daeth eira I aros ar dy ben: Mi garaf eto'th lygad, Fy nghariad, clyw fy ngair, A charaf eto'r eira, Gwen, Fel cerais gynt yr aur."

"'Rwy'n cofio gofyn iti, O dan y bedw bren, A wnaethet fy mhriodi, Addewaist tithau, Gwen: Ysbio rhwng y cangau 'Roedd goleu llwyd y lloer, A ninnau rhwng ei llewyrch, Gwen, Heb deimlo'r gwynt yn oer."

"'Rwy'n cofio'r boreu dedwydd, A'r nef yn las uwchben, Pan unwyd ein calonnau, Fe gofi dithau, Gwen: Ti wridaist wrth yr allor Fel cwmwl cynta'r wawr; A chrynu wnai fy nghalon, Gwen, Fel gweli'm dwylaw'n awr."

"Fe gododd llawer storom, Fe'n curwyd gan y d?n, Bu llawer pryder chwerw Yn llechu dan ein bron; Cyn hir ?'r storom olaf I blith y stormydd fu, Ac huno gawn yn dawel, Gwen, Wrth odreu'r Mynydd Du."

R. BEYNOK, B.A.

Adgofion Mebyd.

Heda meddwl i'r gorphenol, I baradwys bore oes, Pan oedd bywyd yn ddymunol, Pryd na chwythai awel groes; Cysegredig oedd y twyni Lle chwareuem amser gynt, Nid oedd gofid wedi'i eni, Nid oedd brad yn swn y gwynt.

Yr oedd engyl ar y llwybrau, 'N syllu arnom hyd y ffyrdd, Eden ydoedd "Penyffaldau," Lle treuliasom oriau fyrdd; Oriau gl?n heb wag oferedd I lychwino'r tymhor gwyn; Darn o'r nef yn ein hedmygedd Oedd y llecyn prydferth hyn.

Add to tbrJar First Page Next Page

 

Back to top