bell notificationshomepageloginedit profileclubsdmBox

Read Ebook: Cerddi'r Mynydd Du Sef Caneuon Hen a Diweddar by Griffiths W Called G Ap Lleision Compiler Morgan Llew Photographer

More about this book

Font size:

Background color:

Text color:

Add to tbrJar First Page Next Page Prev Page

Ebook has 313 lines and 16472 words, and 7 pages

Yr oedd engyl ar y llwybrau, 'N syllu arnom hyd y ffyrdd, Eden ydoedd "Penyffaldau," Lle treuliasom oriau fyrdd; Oriau gl?n heb wag oferedd I lychwino'r tymhor gwyn; Darn o'r nef yn ein hedmygedd Oedd y llecyn prydferth hyn.

Cynal oedfa wedi'r oedfa Wnelem ni ar ben y Bryn, Nid oedd neb yn gwag-rodiana Y nos Suliau sanctaidd hyn; Pobi ieuainc yn finteioedd Dyrent yma wedi'r cwrdd, Gan orfoledd naws y nefoedd, O! mor anhawdd oedd myn'd ffwrdd.

Cofio'r adeg pan neillduem I ryw gonglau unig iawn, Yno'n fynych yr arferem, Heb un "dorf," berffeithio'n dawn; Adrodd darnau y "Pen Chwarter," Er eu gloewi, wnelem 'nawr, Yna wedyn gan ein hyder, Nid oedd neb yn tori lawr.

Dysgu nyddu'r "cynghaneddion," A llinellu yn ddiball, A chael ffrwd o grechwen iachus Wrth ddarganfod ambell wall; Hyn yw'r rheswm fod fy ardal Wedi codi beirdd o nod, Wrth fyfyrio pethau ofer Ellir byth gyrhaeddyd clod.

Wrth ymlwybro tua'r Capel Dros y bryn, y waun, a'r ddol, Nid oedd calon un addolydd Yn dychmygu pethau ffol; Gwelem Dduw yn mrig y perthi 'N llosgi, megys Moses gynt, Caem ein dwyfol ysbrydoli, A'n gweddnewid ar ein hynt.

Seiniau adar bach y llwyni Dorai'n fiwsig ar ein clyw, Yr oedd natur yn ein tywys Tuag allor cysegr Duw; Megys Enoch gynt yn rhodio Rhodiai tadau dros bob rhiw; Dal cymundeb ?'r ysbrydol Ydyw rhodio gyda Duw.

GWILYM WYN.

Llynau'r Giedd.

Hen afon hoff! dy ganmol wnaf, A chanaf i dy Lynau, Cyrchleoedd difyr, llon, di-loes, Fu rhai'n ar hyd yr oesau; Bum innau'n chwareu lawer tro, A nofio yn eu dyfroedd, A hel eu pysg, ddydd mebyd ter, Oedd imi'n haner nefoedd.

Llyn "dysgu nofio" oedd "Llyn Scwd," A brwd oedd plant am dano, Nid oedd ei debyg yn y wlad I chware' tra'd a dwylo'; Ei waelod welodd llawer un, A blin fu'r ymdrech droion I ffrwyno'r lli', a dysgu'n llon I farchog ton yr afon.

"Llyn Gored" sydd fel gwydr-ddrych Pan fyddo sych yr afon, A'r graig uwchben wrth wel'd ei llun Addolai'i hun yn gyson; Ond pan ddaw llif i lawr drwy'r llyn Yn ewyn gwyn cynddaredd, Yn synu pawb bydd dyfroedd iach Niagra fach Cwmgiedd.

Nid yw "Llyn Cwar" yn fawr ei faint, Er cymaint son am dano, Gogoniant hwn yw'r ffynnon lon Sy'n llifo'n gyson iddo; Rhyw gawg yw ef i ddal ei gwin Yn mhoethder hin yr hafau, Pan sych yr afon yn mhob man, Llyn Cwar ddiwalla'n heisiau.

"Llyn Dafydd Morgan," dyma fe, Mewn creigle mae ei wely, A physg yr afon dd'ont yn llon O dan ei don i gysgu; Mae Dafydd Morgan yn ei fedd, A Giedd eto'n llifo, Ond aros mae y llyn o hyd, A'r byd yn myned heibio.

"Llyn Felin Fach" ar lawr y Cwm, Mae heddyw'n llwm ei gylchoedd, Mae'r felin gynt oedd wrth ei lif Yn adfail er's canrifoedd; Bu llawer rhod o dan ei don Yn gyson ei throadau, A holi'n segur mae o hyd-- Pa le mae yd y tadau?

Llyn dwfn yr "Olchfa," du ei liw, Cymydog yw i'r mynydd, A'r miloedd defaid yn yr ha' A olchir yma'n ddedwydd; Os du ei don, daw'r praidd yn wyn I'r cnaif o'r llyn yn gyson, A thra bo'r Mynydd Du, parh? Yr "Olchfa" yn yr afon.

Mae eto Lynau'n uwch i'r lan, Ar ffordd y Fan a'r Carnau, Y Cefn Mawr a'r Gareg Goch, A glyw y croch raiadrau, Dyfnder yn galw dyfnder sy' Yn gry' ar hyd y mynydd, A Giedd lama'n ewyn gwyn O lyn i lyn i'r Werydd.

RHYS POWEL .

Shon Wil Rhys.

'Rwyf yn awr mewn gwth o oedran, Ac yn gwisgo'r blewyn brith, Hen gymeriad hynod ydwyf, Wedi'i fagu yn eich plith; Nid oes neb sydd yn trigianu Yn nghyffiniau afon Gwys Wedi cerfio'i enw'n ddyfnach Yn y wlad na Shon Wil Rhys.

Caled i mi a fu bywyd, O'i gychwyniad hyd yn hyn, Megys myrtwydd heb w?n heulwen Dan gysgodau dwfn y glyn; Rhwyfo wyf mewn dyfroedd dyfnion, Cyn ac wedi cym'ryd gwraig, Ond 'rwyf fi a'r llong heb suddo, Ac heb daro'n erbyn craig.

Os mai gwael yw'm gwedd yn fynych, Os mai llwydaidd yw fy ngwisg, Nid yw'n deg i neb i farnu Gwerth y cnewllyn wrth y plisg; Haera rhai na ches fy nghrasu'n Ddigon caled, medde'n nhw, Ond ni fu y rhai'n yn ngenau'r Ffwrn o gwbl gwnaf fy llw.

Llawer coegyn sydd am wneuthur Ffwl o honwyf lawer pryd, Peidiwch chwi er hyn camsynied, Y mae Shoni yma'i gyd; Os yr ydwyf yn ddiniwed, Nid wyf fi i gyd yn ffol, Nid y fi yw'r unig berson Fu fel Dafydd yn nillad Saul.

Mae'r pregethwyr doniol hyny Bron i gyd yn llwch y llawr, Yn adgofio am eu haeledd Y mae llawer hen got fawr; Nid oedd un pregethwr enwog Yn y de na'r gogledd draw Na fum i ryw dro yn rhywle Gyda'r brawd yn ysgwyd llaw.

Hen bregethwyr tanllyd Cymru, Yn y wlad ac yn y dref, Oedd y dyddiau gwlithog hyny Yn gynefin iawn am llef; Os pregethwyr mwy dysgedig A gyfodwyd yn ein plith, Hen bregethwyr cynt, er hyny, I Shon Rhys am f?l a blith.

'Rwyf yn awr yn Rhosydd Moab, Bron a chyrhaedd pen fy nhaith, Os yw'r llwybr yn gerygog, Nid yw'r siwrnai ddim yn faith; Os yw cefnfor f'oes yn arw, Yn ddiangol af i'r lan, Daw y porthladd clyd, dymunol, I fy ngolwg yn y man.

Parch. D. ONLLWYN BRACE.

Pen y Cribarth.

Pwy, pwy a ddaw ar hyd y Garth, I ben y Cribarth uchel? I deg fwynhau prydnawn-ddydd mwyn, Ar war y clogwyn tawel, Ac yfed iechyd dros ei fin, O gwpan gwin yr awel.

Pwy, pwy a ddaw ar hyd y Garth, I ben y Cribarth Talfrig? I edrych ar y fywiog fro Sydd dano yn weledig, Ardaloedd eang hyd y m?r Yw'r oror estynedig.

Pwy, pwy a ddaw ar hyd y Garth, I ben y Cribarth eto? I dremio draw i ben y Fan, 'Does dim ond anian yno-- Yn fynydd mawr, a defaid m?n, A nentydd gl?n yn llifo.

Pwy, pwy a ddaw ar hyd y Garth, I ben y Cribarth golau? Mae hedd yn awr lle bu cyn hyn Ddaeargryn yu y creigiau, Cawn ddarllen ar bob careg bron Hanesion o'r hen oesau.

Mae'n hyfryd myn'd ar hyd y Garth, I ben y Cribarth beunydd, Ac uno ym mheroriaeth lon Alawon yr ehedydd; Tra'r byd yn mhell, a'r nef gerllaw, Pwy na ddaw yn addolydd?

T. J. DAVIES .

Yn y Mawn ar ben y Mynydd.

Ar y mynydd yr emynaf, Ar faen sedd mewn hedd mwyneiddiaf; Rhoddaf alaw ar ddu foelydd, Yn y mawn ar ben y mynydd.

Awel bur a haul y boreu, Yma geir fel am y goreu, Yn rhoi yni i'r awenydd, Yn y mawn ar ben y mynydd.

Ond, er hyny, nid yr anial Mawnog hwn yw'r man i gynal Hwyl y gwanwyn hael ei gynydd, Yn y mawn ar ben y mynydd.

Ar y bryniau mawr wybrenol Mae dystawrwydd mud, ystyriol, Yn sobreiddio naws boreu-ddydd, Yn y mawn ar ben y mynydd.

Ni cheir cor yn chwareu carol Yn y llwyn yn llu awenol; Mae cor mwyn y llwyn yn llonydd Yn y mawn ar ben y mynydd.

Ef yw cerddor dor y daran, Difraw troedia fro y trydan; Bwria'i unawd o'r wybrenydd, Yn y mawn ar ben y mynydd.

O bell clywir y gog dirion, Gyda'r awel o'r godreuon, Efo moliant haf ymwelydd, Yn y mawn ar ben y mynydd.

Draw ac yma drwy y cymoedd, Cri a glywir o'r creigleoedd, Bywiog alaw y bugeilydd, Yn y mawn ar ben y mynydd.

Truman cribog, muriog, mawrion, A'u hesgeiriau yn ysgyrion, Yma wyliant uwch y moelydd, Yn y mawn ar ben y mynydd.

Metha'r haf a'i fwynaf wenau, Wyrddu llen i ben y banau; Oeda'r gauaf yn dragywydd, Yn y mawn ar ben y mynydd.

Ymherodraeth y mawr wywdra, Heb eginyn bywiog wena; Lle ni chawn na llwyn na chynydd, Yn y mawn ar ben y mynydd.

Ac ar fynwes cwr y fawnog Torwyd lluniau traed y llwynog, Heibio hwylia yn ysbeilydd, Yn y mawn ar ben y mynydd.

Ar y clogwyn mawr cilwgus Haf awelon sydd yn felus, A chael enyd fach o lonydd, Yn y mawn ar ben y mynydd.

Mwynhau heddwch y mynyddoedd, A mwynderau y mawndiroedd, Sy'n baradwys iawn i brydydd, Yn y mawn ar ben y mynydd.

GWYDDERIG.

Bugail y Mynydd Du.

Rhys oedd bugail y Mynydd Du, A theilwng fab y wawrddydd, Yn nghwmni Toss, ei hanes fu Fel chwedl ar y mynydd.

Add to tbrJar First Page Next Page Prev Page

 

Back to top